Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen) header
Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen) profile picture

...holl newyddion diweddaraf, digwyddiadau a diweddariadau gan gyngor Torfaen. I ddilyn ni yn Saesneg chwiliwch am @torfaencouncil

De Ddwyrain Cymru
Joined June 2013
Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)Photo by Cyngor Torfaen (@CyngorTorfaen)
Croesawodd atyniad newydd Flip Out Cwmbrân dros 1,200 o bobl trwy ei ddrysau yn ystod ei benwythnos agoriadol. 🙌 Mae'n un o dri phrosiect adfywio a gwblhawyd eleni diolch i raglen Trawsnewid Trefi, sydd hefyd wedi rhoi bywyd newydd i ddau
1
23
ATGOFFA 📢 O ddydd Llun ymlaen, bydd ailgylchu eich papur yn haws. Gellir rhoi papur a chardbord gyda'i gilydd yn eich bag ailgylchu glas. Darllenwch fwy: orlo.uk/3XJ6v
3
Newyddion da i Ysgol Gyfun Abersychan! 🎉 Does dim angen gwelliant sylweddol bellach ar Ysgol Gyfun Abersychan, yn ôl Estyn wedi ymweliad monitro yn gynharach eleni. orlo.uk/jWfHW #DdimMewnColliAllan #Abersychan
20
Oeddech chi'n gwybod y gallwch wirio eich taliadau treth gyngor, derbyn diweddariadau a gwneud cais am ddisgownt ar-lein? Cliciwch i gofrestru heddiw: orlo.uk/rziTy
1
20
💡 £100 o daliad cymorth ynni ar y ffordd ym mis Ionawr Os yw’ch eiddo ym Mandiau Treth Gyngor A i D ac rydych yn talu’ch Treth Gyngor trwy Ddebyd Uniongyrchol, cewch £100 yn awtomatig. Bydd pob aelwyd arall yn cael llythyr. I drefnu Debyd Uniongyrchol orlo.uk/5JpFy
1
Yn rhan o Wythnos Genedlaethol Coed, fe fuon ni’n ymweld â Planet Trees i ddangos i chi o ble y mae llawer o'r coed sy’n cael eu plannu yn Nhorfaen yn dod, a'r gwaith sydd ynghlwm â’u tyfu. Gwyliwch ein fideo diweddaraf. #NyrserNaturTorfaen
51
🌳 Mae hi'n Wythnos Genedlaethol Coed! Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Coed, rydyn ni’n rhannu cipolwg arbennig ar Planet Trees, lle caiff miloedd o goed ifanc eu meithrin yn ofalus cyn cael eu plannu mewn cymunedau fel ein cymuned ni. #NyrserNaturTorfaen
1
26
O ddydd Llun 30 Tachwedd, bydd trigolion yn gallu ailgylchu papur a chardfwrdd gyda'i gilydd yn eu bag ailgylchu glas. Ar hyn o bryd, rhaid rhoi papur mewn bag a'i roi yn y bocs du gyda gwydr a thecstilau. Darllen mwy: orlo.uk/raBq0
1
23
Ddydd Mawrth 24 Tachwedd am 2pm bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau a Busnes Trawsbynciol yn trafod yr Argyfwng Hinsawdd a Natur – Adroddiad Diwedd Blwyddyn a'r Strategaeth Hinsawdd a Natur newydd ar gyfer. Gallwch ddarllen yr adroddiad yma: orlo.uk/W5NbC
3
Rydyn ni’n gyffrous i lansio sef cwrs achrededig newydd sbon sydd wedi'i gynllunio i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Ymunwch â ni ar gyfer ein parti lansio: 📅 Dydd Mercher 25 Tachwedd 🕒 3pm-6pm (galw heibio) 📍 Canolfan Pobl Ifanc Cwmbrân E-bost i [email protected]
1
16
Mae ein paratoadau ar gyfer y gaeaf ar y gweill, gyda thimau'r cyngor yn brysur yn llenwi'r ysgubor graean yn barod ar gyfer tywydd oerach.
1
63
Trwy gael stoc nawr, bydd gyda ni filoedd o dunelli o halen yn barod i gadw ffyrdd yn fwy diogel yn ystod tywydd rhewllyd a helpu i gadw Torfaen i symud drwy gydol misoedd y gaeaf.
14
Gall bob plentyn dwy flwydd oed yn Nhorfaen gael hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu bob wythnos. Am fanylion darparwyr sy'n cynnig lleoedd gofal plant wedi’u hariannu, ewch i orlo.uk/78WRt Rhagor o wybodaeth: orlo.uk/qv6Xw #BarodI’rYsgol
7
Oeddech chi'n gwybod y gallwch wirio eich taliadau treth gyngor, derbyn diweddariadau a gwneud cais am ddisgownt ar-lein? Cliciwch i gofrestru heddiw: orlo.uk/5jsZb
4
Mae bron i 2,000 o bobl wedi cwblhau arolwg trigolion eleni.  Mae gyda chi tan Ragfyr 6 i ddweud eich dweud am wasanaethau lleol a’ch cymuned. Gallwch gwblhau’r arolwg ar-lein, neu mae copïau papur ar gael yn y Ganolfan Ddinesig a llyfrgelloedd. orlo.uk/o4JdW
8
Mae disgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân wedi helpu i leihau gwastraff bwyd yn ffreutur yr ysgol bron i 36 y cant. Darllen mwy: orlo.uk/4qbre
24
Gwaith i wella Mynwent Llwyncelyn yn dechrau’r wythnos nesaf Bydd gwaith i greu plotiau claddu a gweddillion amlosgi ychwanegol ym Mynwent Llwyncelyn, gan helpu i fodloni anghenion yn y dyfodol a sicrhau bod lle ar gael i’r gymuned yn y blynyddoedd i ddod.
1
7
Bydd arwyddion ar y safle yn ystod y gwaith, a bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i leihau amharu a chynnal mynediad diogel i’r safle i ymwelwyr. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd Ionawr, gan ddibynnu ar y tywydd. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
2
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl i dybaco, sigaréts a fêps anghyfreithlon gael eu darganfod mewn ardal storio cudd mewn siop ar y stryd fawr. orlo.uk/QfPVE
6
⚠️ Rydym wedi cael gwybod am negeseuon e-bost twyllodrus yn honni eu bod gan ein tîm treth gyngor yn dweud wrth drigolion bod credyd ar eu cyfrif. Peidiwch â chlicio ar ddolenni na rhannu gwybodaeth bersonol neu fanylion banc.
4
💧 A all eich ysgol helpu i arbed saith miliwn litrau o ddŵr? Mae ysgolion ledled Torfaen yn cael eu herio i ailddefnyddio dillad a lleihau gwastraff. Dysgwch fwy am Her Arbed Dŵr Torfaen mewn sesiwn wybodaeth 12 Tachwedd. 📧 E-bostiwch: [email protected]
3
Cafodd Fforwm Iau Torfaen gyfle i ymweld â’r Senedd yr wythnos ddiwethaf. Aeth y disgyblion o ysgolion cynradd Tref Gruffydd, Y Dafarn Newydd a Phen-y-garn ar daith o gwmpas yr adeilad ym Mae Caerdydd a chwrddon nhw ag ASau lleol a rhanbarthol. orlo.uk/jMiYa
15