Pinned Tweet
TAFF RAPIDS yn hedfan yn stiwdio Bore Cothi @BBCRadioCymru yr wthnos hon! Diolch am yr hwyl bois! Ma nhw di cyrradd yr Alban nawr yn saff gobitho! #bbcsounds Loved the Welsh Bluegrass on Bore Cothi this week! Listen back on BBC Sounds! ⭐️⭐️👌welai chi am 11 heddi!🥰
Llongyfarchiadau i Gor Lleisiau’r Cwm sy’n 30 eleni! Na chi ffordd i ddathlu de / yng Ngwyl Gorawl Carwyn James yn Rovigo yr Eidal! Ma nhw di cal 4 diwrnod bythgofiadwy a diolch i Catrin Rhystud Hughes am sgwrs yn fyw o’r bws! 🤪😜Siwrne saff nol i chi. #borecothi @BBCRadioCymru
Bore da! Heddi ni’n mwynhau perl arall o’r archif Calan Gaeaf ar Bore Cothi @BBCRadioCymru a fe fydd Heather Ann Hughes o Langefni yn son am ei busnes bach ‘Wedi MOPIO’N LAN’ - am enw gwych! Mae wrth ei bodd yn clanhau yn ardal Llangefni a sdim stop ar hi a Sarah! Top tips wrthi!
Shân Cothi retweeted
My 92 year old mum had a go at presenting the weather yesterday!
The @BBCWales weather team had better watch out! 😉
DRAW y TALWRN 2027 wedi ei gyflawni mewn STEIL heddi ar Bore Cothi @BBCRadioCymru yng nghwmni’r Meuryn ei hun Ceri Wyn a DO fe gath e groeso gan Glwb Limrigwyr Bore Cothi / odd e hyd yn od yn cynnig i ni greu TIM TALWRN Bore Cothi!??#anrydedd #bethamdani 😜#borecothi #talwrn
Hen dywydd digon diflas i agor hanner tymor ond pidwch a phoeni cwtshwch mewn da’r BWMPEN i fwynhau Archif yr ysbrydion ar Bore Cothi @BBCRadioCymru a ie mae’n amser na o’r flwyddyn TO! DRAW y TALWRN a ma’r peli a’r bwced yn BAROD i groesawu’r Meuryn Ceri Wyn ato ni! #talwrn27
Dyma Mererid Rees o Lanbed. Gath Mererid stroc wael pan odd hi yn gweithio fel dawnswraig yn Dubai yn 26 oed. Mae di gweithio’n galed ar wella a di trefnu noson Sparkle Ball i ddathlu carreg filltir da @niatylermusic a Ceri Davies sy hefyd wedi dioddef o stroc. @BBCRadioCymru🥰
Bore da! Edrych mlan i ddala lan da @Leigh_Alex84 ar Bore Cothi ynglyn a’r fenter newydd Miwsig & Meddwl CBC. Ma Leigh yn gantores ag actores ag yn credu’n gryf ym mhwer cerddoriaeth er lles. Gewn ni fwy o fanylion am egwyddorion y fusnes newydd. #borecothi @BBCRadioCymru
Odi chi’n un am liwiau’r Hydref? Dwi wrth fy modd a’r tymor yma…a ma Ryan Lee #floraldesigns yn dwli ar addurno’r cartref ar gyfer Calan Gaeaf…digon o ddewis rhwng lliwiau’r Hydref..oren, aur, coch, sinsir… gewch chi lwyth o syniadau ofewn yr awr ar Bore Cothi @BBCRadioCymru🎃
Chi’n adnabod y seren yma? Efe i YW CLAYFACE @ClayfaceMovieDC sef yr actor o Gaerdydd @TomRhysHarries sy’n hedfan ar hyn o bryd ym myd y ffilm. Edrych mlan i glywed adolygiad o Clayface da Lowri Haf Cooke ar #borecothi @BBCRadioCymru 🌟#clayface 🤪😬
Edrych mlan at sgwrs da’r sop @HeulenC yn fyw o Melbourne lle mae’n canu fel ‘emerging artist’ gyda chwmni Opera Melbourne. @MelbourneOpera Pob hwyl Nos Sul da’r gyngerdd i gofio trychineb Aberfan sef perfformiad 1af Cantata Memoria @KarlJenkinsReal @BBCRadioCymru #borecothi
Shân Cothi retweeted
Heddiw, cofiwn am drychineb Aberfan, a ddigwyddodd 60 mlynedd yn ôl.
Today, we remember the Aberfan disaster, which happened 60 years ago.
Mae’r ddrama ‘Balloon Girl’ mlan nawr yn @ShermanTheatre ag wedi cal adolygiadau gwych! Stori bwerus yn son am ferch ifanc yn rhan o arbrawf unigryw mewn balwn aer poeth yn 1896…diolch i Elan Davies ag Elin Phillips am rannu’r hanes ar Bore Cothi #Sherman @BBCRadioCymru 👌
Diolch o galon i Wil Morgan am droi’r cloc yn ol a rhannu atgofion ysgytwol ei brofiad o drychineb Aberfan 60ml yn ol…roedd gwrando arno yn cofio’r olygfa a’r awyrgylch yn iasol. Roedd clywed gwaith Karl Jenkins i gofio’r drychineb yn bwerus tu hwnt. #bbcsounds @BBCRadioCymru
Diolch i Dr Llinos Roberts am agor syrjeri Bore Cothi @bbcradiocymru ar ddiwrnod Osteoporosis y BYD. Mae’n werth i chi wrando ar Dr Llinos yn trafod ag mae’n bwnc pwysig i fod yn ymwybodol ohonno…mae modd cal prawf ag i reoli’r cyflwr os yn ei ddal yn ddigon cynnar. #bbcsounds
Diolch i bawb ar Bore Cothi heddi @BBCRadioCymru digon o BINC i ddathlu positifrwydd PINC da Bethan Picton Davies @YWAWR Sylw i gor Dysgwyr newydd Machynlleth ag Owen Ephraim di cyflawni her anferthol drwy redeg o Landudno i Gaerdydd er cof am ei dad gan gefnogi 3 elusen! Gwych!
Shân Cothi retweeted
Replying to @RealShanCothi @BBCRadioCymru
Helo Shan - wedi colli hwn bore yma wrth ddosbarthu @DinesyddCdydd mis Hydref yn Caban a Bloc yna ymuno a Chlonc @MenterCaerdydd yn Caffi’r Castell. Bydda i nol yno ddydd Iau 1-2 a chroeso cynnes i bawb alw draw i ddweud Shwmae Shwmae 😀🚶♀️🚶☕️
Pinc, piiiinc a mwy o BINC!! 😜🌟👌Positifrwydd PINC yw ymgyrch ddiweddaraf @YWAWR a’r Llywydd Cenedlaethol Bethan Picton-Davies a’r cyhoeddiad dros y penwthnos o gyradd targed anferthol o £107,000 a mwy i ddod! Diolch am sgwrs wych a’r limrigau dathlu! #BoreCothi @BBCRadioCymru
Wedi mwynhau cwmni gwesteion arbennig Bore Cothi @BBCRadioCymru a chyfle i ddala lan da Adam yn yr Ardd newydd ers symud ty! Diolch hefyd i Tegid a Ceri John o Garej Morfa Harlech am hanes y teulu yn y fusnes a llongyfarchiadau Oskana ar sgwrs hyfryd yn y Gymraeg! Gwych! #dathlu































































